Mae nifer o achosion o ffliw yng Nghymru wedi cynyddu eto’r wythnos hon, o gymharu â’r wythnos ddiwethaf, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd.

Maen nhw hefyd yn dweud bod eleni wedi gweld y nifer mwyaf o achosion o ffliw yng Nghymru ers 2010/11.

Eu rhybudd i bobol sydd sy’n dioddef y ffliw felly yw i yfed digon o hylif, cymryd meddyginiaeth, cadw’n gynnes a gorffwys.

Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar sut i leihau’r perygl o ledu’r feirws trwy ddilyn y tri cham canlynol:

  • pesychu neu disian i hances bapur bob tro;
  • taflu’r hances ar ôl ei ddefnyddio;
  • golchi dwylo neu ddefnyddio glanweithydd llaw i ladd unrhyw firysau ffliw.

 

Y ffliw’n “ddifrifol iawn”

“Mae gan ffliw y potensial i fod yn ddifrifol iawn, yn enwedig i fenywod beichiog, pobl sy’n 65 oed a throsodd a phobl a chanddynt gyflwr iechyd hirdymor“, meddai Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

“Os oes gennych symptomau ffliw, helpwch atal y firws rhag lledu trwy gadw’n ddigon pell oddi wrth bobl fregus ac ymarfer hylendid da.

“Defnyddiwch hances bapur wrth beswch neu disian, ac yna ymolchwch neu defnyddiwch lanweithydd llaw wedyn.

“A pheidiwch mynd i feddygfeydd neu ysbytai oni bai fod gwir angen ichi wneud.”