Mae dyn o Wynedd wedi derbyn 20 mlynedd o garchar am droseddau rhyw hanesyddol.

Fe ymddangosodd Jason Bennet Thomas, 47 oed, o Gaerhun, ger Caernarfon, o flaen Llys y Goron y dref heddiw ar gyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn plentyn ac am geisio ymyrryd â thystion.

Cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd o garchar, ac fe fydd ei enw ar y gofrestr rhyw am oes.

Yn ôl llefarydd Heddlu’r Gogledd, mae troseddau fel hyn nid yn unig yn achosi niwed i’r plentyn, ond i’r “teulu cyfan hefyd”.

“Mae Thomas yn droseddwr rhyw rheibus a wnaeth gymryd mantais o’r mwyaf diniwed yn ein cymdeithas, sef plant, ac fe wnaeth ef ddwyn eu plentyndod.

“Dw i’n gobeithio y bydd y dyfarniad hwn heddiw yn sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr, a’i fod yn gyfle iddyn nhw symud ymlaen.”