Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod pumed dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol a fu yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf.

Fe gafodd Ifan Owens o Gaerdydd, sy’n astudio Troseddeg yn y coleg ger y lli, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Stryd Uchel y dref am tua 2:20 fore Sul (Ionawr 14).

Cafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Yn wreiddiol fe gafodd pedwar dyn – 25, 23, 20 ac 19 oed – eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Ond ers hynny, mae tri wedi cael eu “rhyddhau dan ymchwiliad”, tra bo’r dyn 19 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Ac erbyn heddiw, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod pumed dyn, 24 oed, bellach yn y ddalfa.