Mae ymchwil newydd yn dangos bod pobol trawsryweddol yn cael eu cam-drin ac yn wynebu anghydraddoldeb yn eu bywydau bob dydd.

Dyna a ddywed Stonewall Cymru, wedi i’r mudiad gyhoeddi canlyniadau ei ymchwil ar drawsffobia yng ngwledydd Prydain heddiw.

Yn ôl adroddiad newydd gan Stonewall, mae dros 51% o bobol trawsryweddol wedi cuddio eu hunaniaeth yn y gwaith ac mae chwarter ohonyn nhw wedi bod yn ddigartref.

Mae hefyd yn dangos bod mwy na thraean o bobol trawsryweddol Cymru, 36%, yn aros i gael y driniaeth feddygol y maen nhw’n dymuno ei chael.

Roedd YouGov wedi gofyn i 871 o bobol draws ar y profiadau y maen nhw’n eu hwynebu bob dydd, gyda 48% yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn defnyddio toiledau cyhoeddus.

Roedd 34% yn dweud eu bod wedi cael pobol yn gwahaniaethu yn eu herbyn wrth ymweld â chaffi, bwyty, bar neu glwb nos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ac roedd 28% o bobol drawsryweddol a oedd wedi bod mewn perthynas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi wynebu cam-drin domestig gan bartner.

Roedd un o bob pedwar yn dweud eu bod wedi cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn wrth edrych am dŷ neu fflat i’w rhentu neu brynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ac yng Nghymru, dywedodd dros hanner [51%] o bobol trawsryweddol nad oedd staff gofal iechyd yn deall eu hanghenion iechyd penodol.

Bwlio yn y gwaith

Roedd yr adroddiad yn cynnwys profiad Silvia, 30, sy’n dweud iddi gael ei bwlio yn ei gwaith blaenorol a’i bod bellach yn cael trafferth dod o hyd i swydd newydd.

“Yn ddiweddar ymddiswyddais o fy swydd oherwydd fy mod i’n cael fy mwlio gan y rheolwr ar ôl i sgwrs rhyngof i a ffrindiau gael ei datgelu ynghylch fy nhrawsnewid. Cefais fy mwlio i’r pwynt lle roeddwn i’n hunan-newidio, a chael syniadau am hunanladdiad.

“Doeddwn i’m yn teimlo fel bod dewis arall ond ymddiswyddo. Rwyf bellach yn cael trafferth i gael swydd oherwydd mod i’n drawsryweddol.”

Oedi mewn triniaeth ‘yn bryder’

Yn ôl Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, mae’r ffaith fod yr adroddiad yn codi methiant llawer o bobol i gael mynediad at wasanaethau iechyd “yn peri pryder arbennig.”

Mae hynny am fod “yr oedi gyda mynediad i driniaethau sydd yn ymwneud â thrawsnewid yn gallu cynyddu’r risg o broblemau iechyd meddwl a hunanladdiad yn syfrdanol,” meddai.

“Croesawom y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst y llynedd ynglŷn â sefydlu Gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd, ac mae’r ymchwil yma yn dangos bod angen i’r gwasanaeth fod yn weithredol cyn gynted â phosibl.”

Ar hyn o bryd, dydy cydnabyddiaeth rhywedd heb ei datganoli ac mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan lansio ymgynghoriad ar ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd.