Mae ymgyrch ledled Cymru wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n cael eu harestio am edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar-lein.

Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2016, mae ymgyrch NetSafe heddluoedd Cymru, ar y cyd ag elusen The Lucy Faithfull Foundation, hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n gofyn am help yr elusen i’w stopio rhag edrych ar y lluniau.

Yn y 12 mis ers i’r ymgyrch ddechrau, fe wnaeth 1,350 o bobol o Gymru fynd at adnoddau’r elusen ar-lein neu wedi ffonio’r llinell gymorth Stop it Now! yn gofyn am help i ddelio â’u hymddygiad neu ymddygiad rhywun arall – cynnydd o 50%.

Mae’r heddlu wedi cyflawni 486 o warantau, wedi arestio 339 o weithiau ac wedi cymryd dros 2,000 o ddyfeisiau.

“Mwy o waith i wneud”

“Ein blaenoriaeth yw diogelu pobol fregus o bob oedran ac mae Ymgyrch NetSafe wedi diogelu dwsinau o blant, rhai a fu’n dioddef o gamdriniaeth rywiol warthus,” meddai Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jon Drake.

“Roeddem ni’n gwybod pan wnaethon ni lansio Ymgyrch Netsafe y byddwn ni’n delio gyda nifer fawr o droseddau ac yn anffodus, mae’r ystadegau o’n gwaith yn dangos hyn.

“Er gwaethaf rhai llwyddiannau, mae dal gennym ni lawer o waith i wneud. Rydym yn ymwybodol bod rhai troseddwyr yn darbwyllo eu hunain nad ydyn nhw’n troseddu nac yn gwneud niwed i berson ifanc am nad ydyn nhw’n cael cysylltiad uniongyrchol â’r plant yn y delweddau.

“Fodd bynnag, dylai’r sawl sydd â lluniau o gamdriniaeth plant ac sy’n eu rhannu wybod bod nhw’n helpu i greu marchnad ar gyfer y delweddau hyn ac o ganlyniad yn helpu i gyflawni’r gamdriniaeth.”