Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) ymhlith y sefydliadau rhai sy’n cyfarfod â’r Tywysog Harri a’i ddyweddi, Meghan Markle, yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Er iddyn nhw ddioddef oedi o awr wrth deithio ar y trên i’r brifddinas, mae’r pâr wedi dechrau ar eu hymweliad trwy ymweld â Chastell Caerdydd, lle mae cyfle iddyn nhw fwynhau’r hyn sy’n cael ei alw’n “flas ar ddiwylliant, chwaraeon a threftadaeth Gymreig”.

Mae’r digwyddiad hwnnw’n cynnwys perfformiadau gan feirdd a chantorion, ynghyd â chwrdd ag athletwyr a dysgu sut mae gwahanol sefydliadau yn hyrwyddo iaith a hunaniaeth y Cymry. Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas, sy’n eu tywys o gwmpas y digwyddiad

Ac mae’n edrych yn debyg  bod dau gynrychiolydd o CFfI Cymru’n bresennol yn y digwyddiad, sef cadeirydd y mudiad, Laura Jane Elliot, ynghyd ag Enlli Pugh o glwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan.