Mae fferm deuluol yng ngogledd Sir Benfro wedi cael hwb i werthiant eu cig dafad, ar ôl denu sylw’r cefndryd Jamie Oliver a Jimmy Doherty.

Mae cig dafad wedi’i gynhyrchu gan ddefaid sy’n hŷn na dwyflwydd oed, ac mae’r cig yn blasu’n gryfach o gymharu â chig oen, ac yn defnyddiol i wneud stiwiau, cyrri a phasteiod.

A dros y Dolig, fe ymddangosodd ffermwyr Carn Edward – sef busnes y ddau frawd, Robert a Richard Vaughan ,a’u rhieni yng Nghwm Gwaun – mewn pennod o’r rhaglen Jamie And Jimmy’s Friday Night Feast ar Channel 4, a hynny er mwyn hyrwyddo’r defnydd o gig dafad fel bwyd.

Yn y rhaglen, fe wnaeth Jamie Oliver ddefnyddio’r cig er mwyn gwneud kofta a lolipos cig dafad, a chafodd gyfle hefyd i flasu pasteion sy’n cael eu cynhyrchu a’u gwerthu gan Carn Edward, allan o’r cig.

“Potensial” i gig dafad

“Roedden ni’n falch iawn fod Channel 4 wedi cynnig cyfle i rannu gwybodaeth am gig dafad, a hynny i gynulleidfa mor fawr”, meddai un o’r brodyr, Richard Vaughan.

“Mae potensial enfawr yn y farchnad ar gyfer ein cig dafad. Mae cyfnod hirach ar ein mynydd yn rhoi lliw tywyll a brithwaith ychwanegol iddo sy’n cynhyrchu blas nodweddiadol iawn.”