Does gan blant a phobol ifanc yng Nghymru heddiw ddim ymwybyddiaeth na diddordeb yn yr hyn yr oedd eu neiniau a’u teidiau yn ei wneud fel bywoliaeth, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl yr ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan y cwmni adeiladu tai i bobol wedi ymddeol, McCarthy & Stone, dydi dros hanner (56%) o’r mil o bobol ifanc rhwng 5 a 18 oed a gafodd eu holi, erioed wedi cael sgwrs gyda’u neiniau a’u teidiau ynglŷn â’u gwaith cyn ymddeol.

Mae 47% heb feddwl am holi, gyda 50% yn cyfaddef nad ydyn nhw’n gwybod os oes gan eu neiniau a’u teidiau sgiliau neu dalentau arbennig. Ac mae 44% o’r rheiny dan 9 oed heb syniad beth oedden nhw’n ei wneud fel gyrfa.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos mai dim ond un o bob pump (20%) o blant a phobol ifanc sy’n gweld eu neiniau a’u teidiau fel ysbrydoliaeth iddyn nhw, tra bo 29% yn gweld y fam yn ysbrydoliaeth, a 26% y tad.

Angen siarad â’r genhedlaeth hŷn

Yn ôl Geoff Bates, Pennaeth Brand a Chysylltiadau McCarthy & Stone, mae’n “syndod” bod llawer o’r genhedlaeth iau ddim yn manteisio ar y wybodaeth a’r talentau sydd gan y genhedlaeth hŷn.

“Rydyn ni’n galw ar rieni a phlant i siarad â’i neiniau a’u teidiau”, meddai, “a hynny er mwyn darganfod beth maen nhw wedi’i wneud â’u bywydau – ac yn parhau i wneud – ac i ddweud wrthyn ni amdano fel y gallwn ni roi’r clod y maen nhw’n ei haeddu.”