Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn siop Spar yng Nghasnewydd ddoe (dydd Mercher).

Mae lluniau ar gamera cylch-cyfyng yn dangos dyn yn cyrraedd y siop ar Heol Cas-gwent, yn bygwth aelodau o staff, cyn gadael gydag arian.

Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn sy’n siarad ag acen Casnewydd. Roedd yn gwisgo hwdi glas tywyll, het a sgarff ddu, ynghyd â fest liwgar o dan ei hwdi.

Mae Heddlu Gwent yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.