Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw eto ar Lywydd y Cynulliad, Elin Jones, i ail-ddosbarthu seddi pwyllgorau, yn dilyn gwaharddiad parhaol Neil McEvoy o grŵp Plaid Cymru.

Mae Neil McEvoy yn aelod o Bwyllgor Deisebau y Cynulliad, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu y dylai aelodaeth yr holl bwyllgorau gael eu hailrannu er mwyn adlewyrchu niferoedd newydd y pleidiau.

Cyhoeddodd Plaid Cymru nos Fawrth (Ionawr 16) eu bod nhw’n gwahardd yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru yn barhaol o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd.

“Annemocrataidd”

“Dylai’r cadarnhad bod Neil McEvoy wedi cael ei wahardd o grŵp y Blaid ddod â’r mater hwn i ben,” meddai Paul Davies, Prif Chwip Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r ffaith bod yna blaid lai yn dal mwy o  seddi pwyllgorau yn beryglus i ddyfodol y sefydliad hwn.

“Mae’n annerbyniol, yn hollol annemocrataidd ac yn ofidus ystyried y ffaith y byddai Plaid Cymru yn parhau i hawlio seddi ar bwyllgorau nad oes ganddyn nhw’r hawl drostyn nhw.

Mewn ymateb, meddai llefarydd ar ran y Llywydd: “Mae’r Llywydd yn ymwybodol o’r ffaith bod y rheolau sefydlog yn glir… bod y dyraniad o seddi yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau, ac felly mae sefyllfa lle mae gan grŵp Plaid Cymru fwy o seddi na grŵp y Ceidwadwyr yn annerbyniol.”