Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi gofyn i’r Comisiynydd Safonau ymchwilio i gwynion yn ei erbyn sydd wedi arwain at ei waharddiad parhaol o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Mae’r blaid eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu mynd â’r mater ymhellach, ar ôl gwahardd yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru yn barhaol.

Fe gafodd Neil McEvoy wybod am y gwaharddiad drwy ebost wrth iddo fynd i ddangosiad o’r ffilm Injustice yng Nghaerdydd nos Fawrth (Ionawr 16).

Does gan y Comisiynydd Safonau ddim hawl fel arfer i ymchwilio i gwynion a gafodd eu gwneud dros flwyddyn ynghynt, ond mae Neil McEvoy yn gofyn am ganiatâd arbennig i gael hepgor y rheol.

Y cefndir

Fe gafodd Neil McEvoy wybod yn y wasg fis Mawrth y llynedd ei fod yn destun ymchwiliad, ond mae’n dweud nad yw Plaid Cymru wedi rhoi’r cyfle iddo gyfarfod â nhw na rhoi tystiolaeth ers hynny.

Fe gafodd e’r hawl i weld y cwynion am y tro cyntaf ar ôl gwneud cais arbennig ddeng mis yn ddiweddarach, a chyn i Blaid Cymru eu trosglwyddo i’r Comisiynydd Safonau fel rhan o bolisi newydd.

Ond yn ôl Neil McEvoy, dydi’r Comisiynydd ddim wedi gwneud penderfyniad hyd yn hyn a fydd y cwynion yn destun ymchwiliad ganddo.

Llythyr

Yn ei lythyr at y Comisiynydd, dywed Neil McEvoy ei fod yn dymuno i’r cwynion fod yn destun ymchwiliad – er nad yw’n credu bod sail iddyn nhw.

“Mae gennyf hyder yn eich proses a’ch dyletswydd o ofal tuag ataf. Rwy’n teimlo y caf wrandawiad teg. Mae’n fater o fudd cyhoeddus i mi allu f’amddiffyn fy hun trwy broses gywir a pharchus.”

Datganiad Neil McEvoy

“Dw i wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau yn gofyn iddo ymchwilio i’r cwynion am fy mod eisiau’r cyfle i fy amddiffyn fy hun, ac am fy mod eisiau i’r mudiadau annemocrataidd hynny sy’n celu y tu ôl i gwynion dienw allu ateb am eu gweithredoedd…

“Mae newyddiadurwyr wedi dweud wrthyf ers misoedd fod ymchwiliad i fy ymddygiad, ond dyw’r blaid erioed wedi cadarnhau hynny wrthyf, er i mi ofyn lawer gwaith.

“Wn i ddim pwy sy’n ei arwain (yr ymchwiliad), wn i ddim beth yw’r cylch gorchwyl. Ni ofynnwyd i mi fynd i unrhyw gyfarfod na chyflwyno tystiolaeth. Gall pawb ddweud ei fod yn cynnal ymchwiliad ond, os nad ydym yn gwneud dim, yna does dim ymchwiliad.

“Wedi deng mis o geisio cael cyfiawnder trwy’r blaid, dw i  nawr yn gobeithio y gall y Comisiynydd Safonau ymchwilio i’r cwynion maleisus hyn sydd wedi’u cyd-gordio yn fy erbyn.”