Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru fydd yn croesawu ŵyr y Frenhines a’i ddyweddi i Gastell Caerdydd fory (dydd Iau, Ionawr 18).

Mae golwg360 wedi cael cadarnhad mai Dafydd Elis-Thomas, yn rhinwedd ei swydd yn y Senedd, fydd yn cyfarfod a thywys y pâr o gwmpas ‘gŵyl ddiwylliannol’ sydd wedi’i threfnu ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru.

Dydi’r datganiad ffurfiol sydd wedi’i ryddhau heddiw gan Balas Kensington ddim yn crybwyll enwau’r “cantorion a beirdd” y bydd yr ymwelwyr brenhinol yn eu cyfarfod, na chwaith yn enwi’r “athletwyr” fydd yn bresennol er mwyn dangos sut y mae Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn cael eu hyrwyddo.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd ganddi gynrychiolwyr yn y digwyddiad – ond na fydd Ryan Giggs, rheolwr newydd y tim cenedlaethol, ddim yn bresennol oherwydd ymrwymiadau eraill.

Ac mae hi’n dal yn gyfrinach pwy’n union yw’r cantorion a’r beirdd a fydd yn perfformio gerbron y cwpwl, fel rhan o’r ŵyl ddiwylliannol. Mae’r wefan hon eisoes wedi cadarnhau na fydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Mae golwg360 hefyd wedi cael cadarnhad gan Gofiadur Gorsedd y Beirdd, Christine James, nad oes neb wedi cysylltu â hi ynglyn â’r digwyddiad.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cadarnhau y bydd y Castell yn agored i’r cyhoedd o 9yb ddydd Iau, cyn yr ymweliad a fydd yn digwydd oddeutu 1.30yp.