Mae dyn 57 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o ladd dyn yng Nghasnewydd.

Cafodd corff Anthony Bubbins ei ddarganfod mewn tŷ ar Ffordd Brynderwen, Casnewydd, am oddeutu 3:30yp ddydd Llun (Ionawr 15).

Nid yw achos ei farwolaeth wedi’i gadarnhau eto, ond mae Heddlu Gwent yn dweud ei bod nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus a’u bod nhw wedi agor ymchwiliad llofruddiaeth.

Ers hynny, mae Paul Paget, 54 oed, o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i’r heddlu ddod o hyd iddo yn Swydd Dyfnaint.

Mae’n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei drosglwyddo i ofal Heddlu Gwent cyn gynted â phosib.