Fe fydd Cronfa’r Loteri yn gwneud buddsoddiad mewn dref yng Ngheredigion am y saith mlynedd nesaf.

Fe ddaeth y cyhoeddiad mai Llandysul fydd un o’r deg cymuned yng Nghymru a fydd yn elwa o’r rhaglen ‘Dyfodol Gwledig’.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyngor proffesiynol i’r ardal er mwyn dod o hyd i ddatrysiad hirdymor i’r heriau sy’n ei hwynebu.

Fe gafodd cyfarfod ei gynnal yn y dref y llynedd gan yr Aelod Seneddol lleol, Ben Lake, a’r Aelod Cynulliad, Elin Jones, lle daeth dros 150 o bob ynghyd i drafod ei dyfodol.

Balchder

Yn ôl Ben Lake, mae’n “falch iawn” bod y cyfarfod cyhoeddus hwn wedi sicrhau buddsoddiad i Landysul.

“Mae cymunedau gwledig fel Llandysul yn wynebu heriau mawr ar hyn o bryd,” meddai.

“Ond rwy’n hyderus y bydd y rhaglen arloesol hon yn rhoi’r arweiniad a’r gefnogaeth angenrheidiol i’r gymuned, fel  bod modd iddyn ddarganfod atebion ymarferol, creadigol ac uchelgeisiol a fydd yn adfywio’r dref.”