Ar un o wardiau tlotaf Gwynedd, mae menter newydd ar fin agor ei drysau er mwyn cynnig bwyd o ansawdd i bobol ar gyflog isel.

Kenny Khan ydi’r cynghorydd lleol – a’r cogydd – y tu ol i Cegin Cofi. Mae wedi symud i mewn i hen swyddfa’r post yn ward Peblig, yn y gobaith o roi ei stamp ei hun ar y lle a’i droi’n ofod ar gyfer y gymuned gyfan.

“Mae’n barhad o’r fan Cegin Cofi oedd gen i rai blynyddoedd yn ôl,” meddai Kenny Khan wrth golwg360.

“Yr un peth ydi’r nod efo’r caffi yma, sef darparu bwyd da, iach a fforddiadwy i’r rheiny sydd ar incwm isel.

“Dw i’n awyddus i roi’r ‘feel good factor’ i bawb, a’i droi o’n ofod cymunedol, lle fedar pobol fwynhau bwyta a chymdeithasu. Bwyd da, i bawb sydd ei angen o!”

Bwydo… a hyfforddi

Wrth wraidd y fenter mae hybu bwyta’n iach, a thaclo gordewdra ymhlith plant a phobol ifanc. Ac mae archfarchnad fel Tesco hefyd yn rhoi ei bwyd dros-ben, a’r pethau sydd ar fin mynd allan o ddyddiad, i Cegin Cofi ei ddosbarthu ymysg pobol fedr wneud rhywbeth ag o.

“Mi fydd yna wersi coginio i blant, mae’n bwysig iawn eu dal nhw’n gynnar, a rhoi’r cyfle iddynt arbrofi yn y gegin,” meddai Kenny Khan.  

“Mi fyddwn ni’n eu dysgu nhw i goginio’n dda, ac yn cadw bas-data o bawb, gan ddangos eu cymwysterau cyfredol.

“Y gobaith wedyn ydi y bydd cwmnïau lletygarwch lleol yn gallu gweld y bas-data hwnnw, ac yn gallu cynnig swyddi i’r bobol ifanc.”

Felly, mi fydd drysau Cegin Cofi yn agor ymhen pythefnos…

“Mae yna dipyn o waith ar ôl i’w wneud cyn agor y drysau!” meddai Kenny Khan,  “ond mae hi wedi bod yn wyrthiol sut y mae pawb wedi dod at ei gilydd i gael y caffi ar ei draed.

“Rydan ni wedi bod yn lwcus iawn o gael rhoddion gan fusnesau lleol, a lot ohonyn nhw’n gwneud y gwaith am ddim i ni. Mae’r grantiau hefyd o lot o lefydd gwahanol yn help mawr.

“Ond yn fwy na dim, mae gweld trigolion lleol yn torchi llewys yn wych, wrth helpu efo’r gwaith paentio ac ati. Rydan ni’n ddiolchgar iawn am y gymuned o’n cwmpas ni.”

Thema bob mis

Mae gan Kenny Khan nifer o syniadau ar waith – mae cinio wythnosol i’r henoed yn un ohonyn nhw; a chynnal nosweithiau misol ar thema wahanol bob tro.

“Drwy wneud cinio rhost i’r henoed, mi fydd yn gyfle iddyn nhw ddod i’r caffi i gymdeithasu, tu hwnt i bedair wal eu cartrefi,” meddai Kenny Khan.

“Mi fydd yn ddihangfa iddyn nhw ac yn lle hwyliog i fod.”