Mae arweinydd Plaid Cymru wedi gwahardd Neil McEvoy yn barhaol o grwp aelodau’r blaid yn y Cynulliad.

Mae Leanne Wood yn dweud fod Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi bod yn tanseilio undod y blaid.

Fe ddaw’r datblygiad hwn ar ddiwedd dydd pan fu Neil McEvoy yn cynnal ei gynhadledd i’r wasg unigol, fel y mae wedi gwneud ers gweithredu yn Aelod annibynnol yn y Cynulliad ers cael ei wahardd fis Medi.

Yn y gynhadledd honno, roedd wedi sôn am ei fwriad i apelio eto er mwyn cael ailymuno â’r grwp. Roedd disgwyl iddo roi ei achos gerbron ym mis Mawrth.

Ymateb Neil McEvoy

Mae’r Aelod Cynulliad wedi cyhoeddi ei ymateb i’wwaharddiad ar ffurf datganiad ar Twitter: