Mae Plaid Cymru yn hawlio buddugoliaeth am sicrhau fod £30m o arian ar gyfer creu ysgolion Cymraeg yn y gyllideb sy’n cael ei thrafod yn y Senedd heddiw.

Mae disgwyl i’r gyllideb gael ei phasio mewn pleidlais yn ddiweddarach heno. Mae’n cynnwys £30m o arian cyfalaf a fydd ar gael “ar unwaith” i raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn cefnogi targed y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050 .

Mae hynny’n golygu y bydd £30m ar gael fel arian cyfatebol i gefnogi prosiectau penodol i gefnogi a hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg.

“Mae hyn yn flaenoriaeth rydym yn ei rhannu â Phlaid Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Buddugoliaeth pwy?

“Y neges bwysig ydi fod y gronfa ysgolion 21ain ganrif yn ei chyfanrwydd ar ôl i hyrwyddo, datblygu ac annog addysg Gymraeg,” meddai Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar addysg.

“Mae e’n mynd i fod yn hwb oherwydd mi fydd y swm yma yn benodol ar gyfer ehangu darpariaeth Gymraeg mewn pob rhan o Gymru, ac mae popeth yn help.

“Wrth gwrs mi wnaethon ni sicrhau miliwn o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer datblygu adnoddau addysg Gymraeg hefyd yn y dosbarth,” meddai wedyn, “felly mae’n dangos i fi yr effaith gadarnhaol mae Plaid Cymru yn cael o safbwynt hyrwyddo addysg Gymraeg.

“Dyw £30m ddim yn mynd mor bell â beth byddai rhai pobol yn dymuno, ond mae’n £30m bob blwyddyn, nid dim ond un flwyddyn, felly mae yna gyfle fan hyn i fod yn fwy uchelgeisiol.”

O blaid ac yn erbyn 

Mae’r ddadl ar y Gyllideb wedi dechrau ers 4yp yn siambr y Senedd, gyda’r bleidlais yn cael ei chynnal yn hwyrach heno.

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw am bleidleisio’n erbyn; a Phlaid Cymru am ymatal. Dydi UKIP ddim eto wedi dweud sut maen nhw am fotio, tra bod Neil McEvoy yn dweud y bydd yn gwrthwynebu’r gyllideb “doredig”.