Fe ddaeth 200 o bobol i wylnos ym Mhorthmadog neithiwr er mwyn cofio am y ddynes a’r babi a fu farw mewn damwain traffig yng Ngwynedd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Heddlu wedi cyhoeddi ers hynny mai’r ddwy a fu farw oedd Anna Williams, 22 oed, o ardal Penrhyndeudraeth, a Mili Wyn Ginniver, chwe mis oed, o Flaenau Ffestinog.

Roedd y ddwy yn teithio mewn Ford Fiesta pan oedd mewn gwrthdrawiad â lori ar y A487 ger Gellilydan ddydd Iau diwethaf (Ionawr 11).

Mae mam Mili, Sioned Williams, a oedd yn gyrru’r car, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn ysbyty Stoke.

“Syfrdanu pawb”

Dros y penwythnos, fe gafodd cronfa ei sefydlu i helpu teuluoedd y ddynes a’r babi, gyda swm y gronfa honno bellach dros £13,000.

Ac yn yr wylnos neithiwr, fe ddywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas bod y digwyddiad wedi “syfrdanu pawb yn yr ardal”, a bod y gymuned “wedi cael clec go iawn”.

Mi fydd yna wylnos arall yn cael ei chynnal ym Mhenrhyndeudraeth ddydd Iau yma, a hynny er mwyn dynodi wythnos union ers y digwyddiad.