Wrth ymateb i’r newyddion bod cwmni adeiladu Carillion wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder am rai o gytundebau’r cwmni yng Nghymru.

Cafodd Carillion ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i drafodaethau brys yn Whitehall fethu a dod i gytundeb i achub y cwmni, sy’n cyflogi 20,000 o weithwyr ledled gwledydd Prydain.

Mae gan Carillion ddyledion o £900m a diffyg o £590m yn ei gronfa bensiwn.

Dywedodd llefarydd Economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George ei bod hi’n “drueni mawr nad yw Carillion wedi gallu dod o hyd i opsiynau ariannu addas gyda’i fenthycwyr.”

 “Mae gan Carillion gysylltiad sylweddol yng Nghymru â nifer o brosiectau allweddol hefyd a rhaid i ni glywed pa gynlluniau y bydd ysgrifennydd y cabinet a Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith megis yr A40, yr A55 a rôl y cwmni fel partner i Abellio yn y rhyddfraint rheilffordd bosibl.

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ond y prif gyfrifoldeb i’r llywodraethau ar ddau ben yr M4 nawr yw sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn parhau i redeg yn ddiogel ac yn effeithiol.”

“Cyngor cyfreithiol”

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth golwg360 mai ychydig iawn o gytundebau oedd gan  Carillion yng Nghymru.

Roedd yn gyfrifol am elfen ddylunio ffordd osgoi yr A40 yn Llanddewi yn Sir Benfro ond “dim ond rhan fach iawn o’r cytundeb cyffredinol yw hwn,” meddai llefarydd.

Yn ogystal, roedd Carillion ynghlwm a’r gwaith ar yr A55 rhwng Bangor a Chaergybi, ond fe werthodd y cwmni eu cyfrannau i John Laing ym mis Rhagfyr 2015 – a bellach, UK Highways Cyf sy’n gyfrifol am y gwaith.

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyfarnu elfen ddylunio yr A55 rhwng cyffordd 15 ac 16 i Carillion y llynedd. Ond mae’r cytundeb yn caniatáu terfynu yn achos methdaliad.

“Hefyd, mae Carillion yn ymwneud ag un o’r ceisiadau ar gyfer Rhyddfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

“Ni allwn wneud sylwadau ar ymarferion tendro agored ond rydym yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y pwynt hwn,” meddai’r llefarydd.