Daeth cyhoeddiad heddiw bod Eos a’r BBC wedi dod i delerau ar gytundeb ‘blanced’ ar gyfer hawlfreintiau darlledu cerddoriaeth.

Mewn datganiad, dywedodd y BBC ac Eos eu bod “yn ymfalchïo yn llwyddiant y trafodaethau” sydd wedi arwain at gytundeb fydd yn golygu “sefydlogrwydd a sicrwydd” i’r ddau gorff am gyfnod o bum mlynedd.

Mae’r cytundeb, sy’n cynnwys trwyddedu holl wasanaethau darlledu’r BBC ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y gwasanaeth newydd, Radio Cymru 2 pan fydd yn cychwyn darlledu ar Ionawr 29 eleni.

“Digwyddiad hanesyddol”

“Mae cadarnhau’r cytundeb allweddol hwn gydag Eos am y pum mlynedd nesaf yn newyddion da dros ben,” meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru.

Yn ôl Dafydd Roberts ar ran Eos, mae’n “ddigwyddiad hanesyddol”, ac mae’n “cadarnhau’r berthynas glos a’r cydweithio sydd wedi bod yn ddiweddar rhwng y diwydiant cerdd yng Nghymru a’r darlledwr”.

Bu aelodau Eos ar streic yn 2011, ac eto yn 2013, trwy wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae 30,000 o ganeuon Cymraeg oherwydd anghydfod dros faint oedden nhw’n cael eu talu.