Mae’r Comisiynydd Plant, Sally Holland, wedi lansio pecyn a fydd yn gymorth i athrawon yng Nghymru gynyddu’r ymwybyddiaeth o Islamaffobia yn y dosbarth.

Nod y pecyn o gynlluniau gwersi – sy’n gydweithrediad rhwng y Comisiynydd Plant a Mwslimiaid ifanc yng Nghymru – yw rhoi cymorth i athrawon allu mynd i’r afael â’r heriau hynny mae disgyblion o gefndir Mwslimaidd yn gorfod ei wynebu.

Mae’r pecyn yn cynnwys barn a phrofiadau Mwslimiaid ifanc yng Nghymru, ac mae’n annog athrawon i amlygu’r niwed sy’n cael ei achosi gan Islamaffobia; helpu i herio canfyddiadau negyddol o Islam; ynghyd â gwella profiadau Mwslimiaid ifanc yng Nghymru.

Islamaffobia yn “broblem gynyddol”

Daw’r datblygiad diweddaraf hwn yn sgil ystadegau a gafodd eu cyhoeddi’r mis Hydref diwethaf sy’n dangos bod y nifer o droseddau atgasedd hiliol wedi codi 27% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda throseddau’n ymwneud ag atgasedd crefyddol yn codi 35% yn ystod yr un cyfnod.

“Mae’n eglur bod gennym ni, fel cymdeithas, broblem gynyddol o ran sut mae’r boblogaeth Fwslimaidd, a’r rhai a ganfyddir fel Mwslemiaid, yn cael eu trin gan rai pobol eraill yn y gymdeithas,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.

“Rydw i wedi siarad â Mwslimiaid ifanc o wahanol rannau o Gymru sydd wedi dweud wrthyf fi eu bod nhw’n aml yn ofnus yn eu cymunedau, eu bod wedi cael eu sarhau’n uniongyrchol yn yr ysgol, a’u bod wedi blino ar sut mae Islam yn aml yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau, ac effaith hynny ar farn eu cyfoedion sydd ddim yn Fwslimiaid.

“Mae’r adnodd yn cynnig ffordd arbennig o gynyddu dealltwriaeth plant a phobol ifanc Cymru Islam a Mwslimiaid sy’n byw yng Nghymru.”

Athrawon yn ei groesawu

Mae’r pecyn eisoes wedi bod ar brawf mewn ysgolion yn Abertawe, Caerdydd a Chastell-nedd, ac mae nifer o athrawon wedi ei ganmol a’i groesawu.

“Fel athro Addysg Grefyddol, gall fod yn her delio gyda materion emosiynol oherwydd tensiwn cymdeithasol a radical canfyddedig”, meddai Joe Bamsey, athro yn Ysgol Gyfun Pentrehafod, Abertawe.

“Yn naturiol, fel adran Addysg Grefyddol, rydyn ni am i’n myfyrwyr ymgysylltu â chwricwlwm eang, cwbwl gynhwysol.

“Mae’r adnoddau sy’n cefnogi’r gwaith o addysgu’r mater sensitif hwn, felly, wedi cael derbyniad da gan yr ysgol.”