Mae prisiau tai yng Nghymru ar gyfartaledd wedi gweld cynnydd o 3.3% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality, mae pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru bellach wedi codi i £179,855.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod prisiau tai wedi gweld cynnydd yn naw o’r 12 mis yn 2017, gyda mis Rhagfyr yn dod ag uchafswm pris newydd i Gymru am y pumed mis yn olynol.

Y cynnydd mwyaf yn Sir Benfro

Sir Benfro a welodd y cynnydd mwyaf yn ystod y flwyddyn, gyda phrisiau tai yn codi 8.1% i’r cyfanswm o £197,794.

Ond Blaenau Gwent, ar y llaw arall, a welodd y cwymp mwyaf, wrth i brisiau tai ostwng -2%, sy’n golygu mai gwerth tŷ ar gyfartaledd yno bellach yw £99,883.

Y cynnydd i barhau yn 2018

Yn ôl Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae’r cynnydd ym mhris tai teras yng Nghaerdydd a’r gweithgarwch o adeiladu tai newydd yng Nghasnewydd ymhlith y prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at gynnydd mewn prisiau tai yn rhanbarthau’r de.

Ac yn gyffredinol ledled y wlad wedyn, mae prinder yn y cyflenwad tai, cyflogaeth uchel a chyfraddau llog isel wedi cyfrannu at y cynnydd.

Mae disgwyl y bydd y cynnydd hwnnw’n parhau yn 2018, er gwaetha’r ffaith bod gweithgarwch yn y farchnad wedi arafu yn ddiweddar ar ôl i Fanc Lloegr gynyddu’r gyfradd llog.

“Mae amodau economaidd tebyg ar gyfer 2018 yn nodi y bydd prisiau tai yn parhau i dyfu’n gymedrol yng Nghymru”, meddai Tom Denman.