Fe fydd cyn-bostmon o Gaerdydd yn cael ei gyhuddo ddydd Llun (Ionawr 14) o gyfres o droseddau brawychol.

Mae Sajid Idris, 35, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddosbarthu deunydd brawychol ar y we.

Aeth gerbron yr Old Bailey yn Llundain fis Awst y llynedd, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Kingston i wynebu’r cyhuddiadau.