Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am sefydlu Comisiwn Beveridge newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – gan ychwanegu unigrwydd ymhlith yr henoed at y materion sy’n cael sylw.
Canlyniad yr Adroddiad Beveridge gwreiddiol oedd sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd a chreu’r wladwriaeth les.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mae’r “pum drwg mawr” sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwnnw “wedi newid ac nid wedi dod i ben”.
Mae 200,000 o blant, meddai’r blaid, yn byw mewn tlodi.
Mae gan 800,000 o bobol salwch tymor hir a 9,000 o bobol yn aros mwy na phum mlynedd am dai cymdeithasol.
Mae 26,000 o blant yn wynebu’r posibilrwydd o adael yr ysgol cyn eu bod nhw’n gallu darllen yn dda, a 23% o swyddi’n brin o’r sgiliau angenrheidiol.
Ac mae hanner miliwn o bobol, meddai’r blaid, yn wynebu unigrwydd.
‘Trawsnewid cymdeithas’
Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds fod yr Adroddiad Beveridge gwreiddiol “wedi trawsnewid cymdeithas Prydain”.
“Rydym, yn hollol gywir, yn falch iawn o’r rhan a chwaraeodd wrth sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd a chreu’r wladwriaeth les yr ydym yn ei hadnabod heddiw, gan arwain at fanteision dirifedi i bobol ym Mhrydain.
“Ond dyw gwaith Beveridge ddim ar ben. Efallai bod y pum drwg mawr a nododd wedi esblygu, ond dydyn nhw ddim ar ben.
“Mae Cymru bellach yn wynebu chweched drwg y mae’n rhaid mynd i’r afael ag e, sef unigrwydd.”
Ychwanegodd y dylid “gorffen y gwaith”, ond rhybuddiodd na ellir “canolbwyntio’n unig ar broblemau heddiw” ond fod rhaid “darogan problemau’r 75 mlynedd nesaf”.
“Roedd Beveridge wedi gallu trawsnewid y gymdeithas oherwydd bod ei argymhellion wedi cael eu derbyn gan y gymdeithas a’u cyflwyno gan bob plaid.
“Os yw ein comisiwn ninnau am gael yr un effaith, rhaid iddo sicrhau consensws trawsbleidiol a chan bob plaid.”