Mae Cymro a arferai gael ei gyfweld yn rheolaidd ar Radio Cymru am ei dyddiau fel hyfforddwr yn Chelsea yn cael ei gyhuddo o hiliaeth ac o fwlio chwaraewyr ifanc du.

Yn ôl stori yn y Guardian heddiw, mae tri chyn-chwaraewr tîm ieuenctid Chelsea yn dwyn achos yn erbyn y clwb Uwch Gynghrair gan enwi Gwyn Williams fel un a oedd yn eu cam-drin.

Mae’r cyn-hyfforddwr 54 oed a ymunodd â Chelsea yn 1979, a’r llall sy’n cael ei enwi, Graham Rix, wedi cyhoeddi datganiad trwy eu cyfreithiwr yn gwadu’r honiadau.

Roedd y ddau yn ffigurau amlwg yn y clwb yn yr 1990au.

Mae’r chwaraewyr yn eu cyhuddo o ddefnyddio pob math o eiriau hiliol ffiaidd yn eu herbyn, er nad oes honiadau o ymosodiadau corfforol yn erbyn Gwyn Williams.

Mae’r clwb wrthi’n cynnal ei ymchwiliad ei hun i’r honiadau, ar ôl i’r heddlu benderfynu nad oedd digon o dystiolaeth i fynd â’r achos ymhellach.