Mae dyn ifanc o ogledd Lloegr wedi cael ei garcharu am wneud galwadau ffug i dimau achub mynydd yn Eryri.
Cafodd Michael Cuminskey, 23 oed o Stockton yn swydd Tyne and Wear ei ddedfrydu i 16 mis gan Lys y Goron Caernarfon ddoe.
Roedd wedi galw am gymorth y tîm achub mynydd ar 25 Mawrth 2016 gan honni bod dyn wedi syrthio wrth gerdded yn ardal Dinorwig. O ganlyniad i’r alwad, fe fu tîm achub mynydd Llanberis a hofrennydd gwylwyr y glannau wrthi’n chwilio.
Meddai Pc Gethin Jones o Heddlu Gogledd Cymru a fu’n ymchwilio i’r digwyddiad:
“Mae galwadau ffug yn peryglu bywydau ac yn gwastraffu adnoddau. Mae ymateb i alwadau brys yn tynnu sylw ac amser staff a gwirfoddolwyr oddi wrth argyfyngau go iawn. Yr amcangyfrif ydi bod y digwyddiad penodol hwn wedi costio dros £32,000 i’r pwrs cyhoeddus, sy’n anfaddeuol.”
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard:
“Mae’r llysoedd yn cymryd digwyddiadau fel hyn yn ddifrifol iawn a dw i’n gobeithio bod yr achos yma’n atgoffa’r rheini sy’n gwneud galwadau ffug o’r fath y byddwn ni’n gweithredu’n gadarn yn eu herbyn.”