Mae 14 o bobol wedi cael eu carcharu am droseddau’n ymwneud â chyffuriau ar ôl i dabledi gael eu darganfod ar fam a oedd yn ymweld â’i mab mewn carchar.

Ddiwrnod cyn Nadolig 2015, fe wnaeth swyddogion carchar Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ddarganfod saith o dabledi Subutex yn cael eu cludo gan Susan Hynes i’w rhoi i’w mab Nathan Hynes wrth ymweld ag ef.

Cafodd y ddynes 56 oed o Ferthyr ei harestio, ac fe wnaeth Heddlu De Cymru lansio Cyrch Red Hercules, a wnaeth arwain at ddedfrydu 14 o bobol o ardaloedd Merthyr, Abertawe a Birmingham yn Llys y Goron Caerdydd ddoe.

Llwyddodd yr heddlu i gychwyn datgymalu’r rhwydwaith o werthwyr cyffuriau gyda negeseuon testun ar ffôn symudol Susan Hynes yn cyfeirio at drosglwyddo arian i gyfrifon banc.

Roedd negeseuon tebyg ar ffonau pobol eraill a gafodd eu holi yn sgil y darganfyddiad yn arwain yn raddol at fwy a mwy o gyflenwyr.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Weber o Heddlu De Cymru:

“Roedd hwn yn achos cymhleth iawn a oedd yn golygu archwilio dwsinau o gyfrifon banc a biliau ffonau symudol, ac fe wnaeth y gwaith hwn ddatgelu symudiad cannoedd o filoedd o bunnau o ariau cyffuriau.

“Mae cyrch Red Hercules yn tanlinellu ein penderfyniad i gael gwared ar gyffuriau yn ein carchardai sy’n cyfrannu at drais ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau brys eraill fel y Gwasanaeth Iechyd.”

Cafodd y 14 o bobol ddedfrydau o garchar yn amrywio o 10 mlynedd i 18 wythnos.