Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi rhybuddio pawb sy’n cadw dofednod yng Nghymru i fod ar eu gwyliadwriaeth am arwyddion o’r Ffliw Adar.

Dywed Christine Glossop y dylai pawb gofrestru am rybuddion a chofrestru eu hadar gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Daw ei phryderon ar ôl i achos o’r feirws gael ei ddarganfod mewn 17 o adar gwyllt yn Dorset.

“Nid peth anghyffredin yw cael hyd i Ffliw’r Adar mewn adar gwyllt ym Mhrydain yr adeg hon o’r flwyddyn a chafwyd Ffliw’r Adar mewn gwledydd eraill ledled Ewrop hefyd yn yr wythnosau diwethaf,” meddai Christine Glossop.

“Mae cael hyd i’r clefyd mewn adar gwyllt yn Dorset yn pwysleisio bod angen i geidwaid dofednod fod yn wyliadwrus a chadw golwg ar eu hadar am arwyddion o’r clefyd.

“Rwy’n eu hannog i ymbaratoi a chymryd camau, er enghraifft, bwydo a dyfrio adar o dan do, i amddiffyn eu hadar rhag cael eu heintio.

“Dylai pawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill wneud popeth yn eu gallu i’w rhwystro rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt. Dylech osgoi symud eich dofednod, a dylech wastad diheintio dillad ac offer  cyn ac ar ôl eu defnyddio.”