Mae un o Bwyllgorau’r Cynulliad am gasglu tystiolaeth a holi’r farn er mwyn gweld pam bod mwy o bobol yn cysgu ar y stryd.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am glywed safbwyntiau a syniadau pobol er mwyn helpu i lunio ei gasgliadau a’i argymhellion.

Yn ôl gwybodaeth y Cynulliad roedd 313 o bobol yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn y pythefnos rhwng 10 a 23 Hydref 2016.

Fel rhan o’i ymchwiliad, bydd y pwyllgor yn ystyried:

–        Faint o bobol sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru a pha mor ddigonol yw’r data;

–        Yr hyn sy’n achosi cysgu ar y stryd a’r cynnydd diweddar ymddangosiadol mewn cysgu ar y stryd;

–        Effeithiolrwydd ac argaeledd gwasanaethau, gan gynnwys llety brys; a’r

–        Camau i atal ac ymdrin â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

“Nid wyf yn meddwl bod yr un ohonom wedi methu â sylwi ei bod yn ymddangos bod mwy o bobl yn defnyddio drysau siopau, grisiau a meinciau parc i gysgu,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn golygu bod iechyd pobol, a’u bywydau hyd yn oed, mewn perygl.

“Mae gwirfoddolwyr, elusennau, awdurdodau lleol, a gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llawer o waith da i roi cymorth a chefnogaeth, ond rydym am wybod beth arall y mae modd ei wneud.”

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol ond mae am glywed am brofiadau personol hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Gwener, Chwefror 2, 2018.