Mae rhan Lloyd George yn hanes creu’r RAF wedi ei ddathlu yn ei bentref genedigol, ganrif ers sefydlu’r awyrlu yn 1918.

Roedd yr unig Gymro Cymraeg i fod yn Brif Weinidog Prydain, wnaeth benderfynu sefydlu’r RAF er mwyn brwydro yn erbyn awyrlu’r Almaen adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daeth tua 80 o bobol i Amgueddfa Lloyd George heddiw gan ymuno gyda Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, a Phrif Bennaeth yr Awyrlu, Syr Stephen Hillier.

Yn deyrnged i ran Lloyd George yn hanes milwrol Prydain, bu awyrennau yn hedfan heibio pentref ei eni ac fe gafodd llyfr yn adrodd hanes sefydlu’r RAF ei gyflwyno i’r amgueddfa.

Hefyd agorwyd Gardd Goffa Can Mlynedd yr RAF yn yr amgueddfa.

Dywedodd y Cynghorydd Annwen Daniels, sy’n Gadeirydd Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gael bod yn rhan o’r digwyddiad hwn sy’n bwysig i Wynedd a gogledd Cymru.”