Mae papur newydd y Guardian yn adrodd bod Mark Bowen yn y ras i olynu Chris Coleman.

Roedd eisoes yn hysbys bod Osian Roberts, Ryan Giggs a Craig Bellamy yn cael eu cyfweld ar gyfer swydd rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol.

Mae disgwyl i’r Gymdeithas Bêl-droed enwi olynydd Chris Coleman yn y dyddiau nesaf, ac yn ôl y Guardian y cyn-asgellwr rhyngwladol Ryan Giggs yw’r ffefryn.

Roedd Mark Bowen yn cynorthwyo Mark Hughes yn Stoke, cyn i hwnnw gael ei ddiswyddo.

Fe enillodd Mark Bowen 41 o gapiau tros ei wlad a bu’n cynorthwyo Mark Hughes pan oedd yn rheolwr Cymru.