Mae Cyngor Ceredigion wedi cau drysau cartref gofal fu’n colli £400,000 y flwyddyn.

Bu Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, a’r Arglwydd Elystan Morgan ymhlith criw o 200 ar orymdaith y llynedd yn ceisio perswadio’r cyngor lleol i gadw cartref Bodlondeb yn ardal Penparcau o Aberystwyth ar agor.

Er bod 44 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, dim ond 26 oedd gallu cael eu defnyddio – nid oedd y gweddill yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

Fe wnaed y penderfyniad i gau fis Tachwedd ac mae yn golygu colli  33 o swyddi.

Yn ôl y cyngor bu staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda’r 11 o breswylwyr oedd yn byw yno, a’u teuluoedd, i ddod o hyd i lety addas newydd cyn gwneud trefniadau terfynol i gau’r cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, “Yn dilyn y penderfyniad anodd i gau Bodlondeb, rhaid inni ddiolch i breswylwyr, teuluoedd ac aelodau staff am gydweithio i sicrhau bod trosglwyddo’r preswylwyr i’w cartrefi newydd wedi bod mor llyfn â phosib. Mae’r staff yn y cartref wedi bod yn rhan o’r broses gyfan ac mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i sicrhau eu dyfodol yn y sector gofal yng Ngheredigion.”