Mae darlledwr radio o Gymru sy’n ennill un o gyflogau mwyaf bras y BBC, wedi cael ei ddal yn tynnu coes am y ffrae dros gyflogau’r gorfforaeth.

Mewn recordiad sydd wedi’i ryddhau i’r wasg, mae cyflwynydd rhaglen Today BBC Radio 4, John Humphrys, yn siarad â’r golygydd dros Ogledd America, Jon Sopel cyn y rhaglen fore dydd Llun.

Mae’r ddau i’w clywed yn siarad am Carrie Gracie, cyn-olygydd China y BBC a adawodd y Gorfforaeth ddechrau’r wythnos mewn protest bod dynion yn cael mwy o gyflog na merched.

Yn ôl y Sun a’r Times, gofynnodd John Humphrys i’w gydweithiwr faint o’i gyflog y byddai’n barod i’w roi i Carrie Gracie.

“Er mwyn dyn, mae hi wir wedi awgrymu y dylet ti golli arian,” meddai John Humphreys wrth Jon Sopel.

“Dim i’w wneud â Carrie Gracie”

Dywedodd y cyflwynydd wrth y Times nad oedd gan y sgwrs unrhyw beth i’w wneud â Carrie Gracie, a oedd yn cyd-gyflwyno’r rhaglen Today gyda John Humphrys fore Llun.

“Sgwrs oedd hon rhwng dau hen ffrind sy’n adnabod ei gilydd ers 30 o flynyddoedd ac a oedd yn tynnu ar ei gilydd.

“Doedd a wnelo ddim ag ymgyrch Carrie.”

Ymddiswyddodd Carrie Gracie ar ôl iddi ddweud bod “diwylliant cyflogau cyfrinachol ac anghyfreithlon” o fewn y BBC.

Dynion yw dwy ran o dair o gyflwynwyr y BBC sy’n ennill dros £150,000.