Mae trigolion Llanfairfechan yn gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r clwb golff lleol ymestyn ei oriau agor, gan honni bod y safle yn fangre i ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 Bu i un o gymdogion y clwb gwyno bod trôns budur wedi ei adael ar ei giât, gan rywun oedd wedi bod yn y clwb am noson allan.

Daw’r cwynion wedi i Glwb Golff Llanfairfechan wneud cais i Gyngor Sir Conwy i ymestyn trwydded y clwb er mwyn gallu agor tan ddau’r bore ar ddyddiau Gwener a Sadwrn, a hanner nos am weddill yr wythnos.

Mae swyddogion y clwb yn credu y byddai ymestyn yr oriau agor yn rhoi “hyblygrwydd” iddyn nhw wrth gynnal digwyddiadau.

Ond mae trigolion lleol wedi galw am wrthod y cais, yn sgîl honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n deillio o ddigwyddiadau’r clwb.

Maen nhw yn dweud bod car wedi ei ddifrodi, sŵn mawr a dillad isaf yn cael eu gosod ar giât.

Y clwb yn ymddiheuro

 Mae swyddogion y clwb eisoes wedi ymddiheuro am y materion dan sylw, gan awgrymu cynnal cyfarfodydd pob tri mis i drafod unrhyw broblemau.

Mae pennaeth y clwb, Jean Williams, hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n cynnal rhagor o bartïon dathlu pen-blwydd 18 oed yn y dyfodol, a’u bod nhw eisoes wedi gwrthod cais i gynnal ymarferion band yno.

Fe fydd yr is-bwyllgor o Gyngor Conwy sy’n trafod trwyddedau yn cwrdd i drafod y mater heddiw, ac fe fydd tri chynnig yn cael eu rhoi gerbron yr aelodau – sef derbyn y cais gydag amodau, newid neu wrthod.