Mae babi chwe mis oes wedi marw mewn damwain draffig angheuol yng Ngellilydan, Gwynedd.

Bu gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta a lori am tua 11:20 bore ddoe.

Bu farw dynes a oedd yn teithio yn y car yn y fan a’r lle, ac fe gafodd babi –merch fach – ei chludo i’r ysbyty.

Ond mae’r heddlu wedi cadarnhau bod y babi wedi marw yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Mae dynes arall, a oedd yn gyrru’r car, yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad.