Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw mewn damwain draffig angheuol yng Nghaerau, Maesteg ddydd Mercher diwethaf.
Roedd Adam McGurie, 36 oed, yn dod o Gaerau, ac mae wedi cael ei ddisgrifio gan ei deulu fel mab, brawd ac ewythr “cariadus”, ac wedi dweud y bydd yna golled ar ei ôl.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar heol y A4063 yng Nghaerau, Maesteg.
Roedd y ddamwain yn cynnwys tri cherbyd, gan achosi niwed angheuol i un o’r teithwyr, ac fe gafodd Nicky Davies, 26 oed, o Gymer ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth wrth yrru’n beryglus, ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Mae’r Heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.