Nid yw Mark Drakeford wedi diystyru’r posibilrwydd y gallai olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru.

Fe gafodd yr Ysgrifennydd Cyllid ei ddewis yn Wleidydd Cymreig y Flwyddyn gan ITV Cymru yn ddiweddar.

Dywedodd Mark Drakeford wrth gylchgrawn Golwg y byddai’n rhaid iddo “feddwl” am sefyll i arwain y Blaid Lafur yng Nghymru pe bai’r swydd yn wag.

Er bod rhai yn darogan y gallai Carwyn Jones gael ei orfodi i gamu o’r neilltu o fewn ychydig fisoedd yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, nid yw Mark Drakeford yn cytuno.

Wrth gael ei ethol ym mis Rhagfyr 2009, dywedodd Carwyn Jones y byddai’n arweinydd am ddeng mlynedd, ac mae’r cyfnod yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019.

Mae Mark Drakeford o’r farn y bydd yn parhau’n Brif Weinidog tan y dyddiad hwnnw. Ond mae’r  Ysgrifennydd Cyllid, sydd hefyd yn gyfrifol am drafod Brexit ar ran Llywodraeth Cymru, yn fodlon ystyried llenwi ei esgidiau pan fydd Carwyn Jones yn rhoi’r gorau iddi.

“Dw i ddim wedi dod i mewn i’r swydd yn edrych i wneud hwnna a does dim bwlch yna achos mae Prif Weinidog gennym ni ac mae e’n bwrw ymlaen i wneud y gwaith,” meddai Mark Drakeford.

“Fy ngwaith i fel aelod o’r Cabinet yw ei gefnogi fe yn y gwaith caled y mae e’n ei wneud a dyna be’ dw i’n canolbwyntio arno.

“Os mae rhywbeth yn digwydd yn y dyfodol, wel bydd rhaid i fi feddwl am hwnna pan mae’n digwydd. Ar hyn o bryd dw i ddim yn meddwl amdano fe o gwbl.”

Portread o Mark Drakeford yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.