Mae Llywodraeth Cymru yn annog cymunedau, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i rannu straeon ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy llwyddiannus.
Nod y cais hwn yw casglu tystiolaeth ynglŷn â sut y gall cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol sicrhau bod mwy o bobol ledled Cymru yn mynd ati i greu eu prosiectau eu hunain.
Bydd hyn wedyn yn gymorth i bennu’r heriau hynny y bydd angen i ddatblygwyr, busnesau, awdurdodau lleol, cymunedau ac eraill eu gorchfygu er mwyn cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol ac ar y cyd ag eraill.
Bydd hefyd yn cyd-fynd â’r targedau y gwnaeth Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros Ynni yn y Cynulliad, eu cyhoeddi ym mis Medi 2017 ynglŷn â chynhyrchu ynni yng Nghymru.
Y targedau hynny yw:
- bod 1 Gigawatt (GW) o drydan adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu’n lleol erbyn 2030.
- bod gan brosiectau ynni adnewyddadwy o leiaf un elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020.
“Cynnydd da”
Yn ôl Lesley Griffiths, mae prosiectau fel fferm wynt Pen y Cymoedd a’r prosiect cymunedol, Awel Aman Tawe, yn dangos bod Cymru’n gwneud “cynnydd da” o safbwynt cyflawni’r targedau.
“Bydd angen llawer iawn o brosiectau eraill tebyg yng Nghymru, rhai mawr a rhai bach a fydd yn defnyddio pob mathau o dechnolegau, a rhai cymunedol a rhai ar raddfa enfawr, er mwyn diwallu anghenion y dyfodol o ran ynni,” meddai’r Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
“Bydd y cais am dystiolaeth yr wyf yn ei lansio heddiw yn ystyried y modd y gallwn gyflawni hyn a’r modd y gall Cymru gyfan elwa i’r eithaf arno.”