Mae’r heddlu ym Mhort Talbot yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dynes 55 oed.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn tŷ yn Heol Moorlands and ardal Sandfields yn y dre.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ toc wedi 3yp ddydd Iau, Ionawr 11.

Mae’r crwner wedi’i hysbysu, ac mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i’w theulu er mwyn eu hysbysu am ei marwolaeth.