Fe fydd y Tywysog Harry a’i ddyweddi, Meghan Markle, yn rhan o “ŵyl ddiwylliannol Gymreig” yng Nghastell Caerdydd yr wythnos nesaf – ond does yna neb i weld yn gallu dweud wrth golwg360 pwy fydd y beirdd a’r cantorion y byddan nhw’n eu cyfarfod yn y brifddinas.

Mae Palas Kensington a Chastell Caerdydd wedi cadarnhau y bydd ymweliad ŵyr y Frenhines ddydd Iau, Ionawr 18, yn un lle y byddan nhw’n “dysgu mwy am ddiwylliant Cymru” ac am yr iaith Gymraeg.

Ac, fel rhan o “Wyl Ddiwylliannol Gymreig” fydd yn cael ei chynnal yn y Castell, meddir, fe fydd cyfle iddyn nhw fwynhau perfformiadau gan feirdd a cherddorion, cwrdd ag athletwyr, a dysgu sut mae gwahanol sefydliadau yn hyrwyddo’r iaith a hunaniaeth y Cymry.

Ond maen nhw’n gwrthod dweud pwy’n union fydd y bobol hynny… er bod golwg360 yn deall na fydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn rhan o’r digwyddiadau.

Dirgelwch a diogelwch

Mae trefniadau diogelwch yn y brifddinas yn achos dipyn o ddirgelwch hefyd, wrth i Gyngor Caerdydd wrthod datgelu tan ddydd Mercher nesaf (Ionawr 17) pa ffyrdd fydd yn cael eu cau er mwyn hwyluso taith y Tywysog a’i ddarpar wraig i ac o’r Castell.

Fydd y manylion ddim yn cael eu rhannu yn rhy bell o flaen llaw, meddai llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd wrth golwg360, am resymau diogelwch.

Ar ôl bod yng Nghastell Caerdydd, mae disgwyl i’r pâr ymweld â chanolfan hamdden gymunedol, Hub Star, yn ardal Tremorfa, yng ngogledd-ddwyrain y ddinas.