Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian busnes i ddrama ddiweddaraf Channel 4, Kiri, sy’n cael ei darlledu am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Cafodd y gyfres, sy’n serennu Sarah Lancashire, ei chynhyrchu yn y de-ddwyrain, ac mae wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne o Fryste. Mae’r cyfarwyddwr adnabyddus o Gymru, Euros Lyn hefyd yn rhan o’r tîm cynhyrchu.

Cyfres â phedair ran iddi yw Kiri, sydd hefyd yn serennu Lucian Msamati a Lia Williams.

Mae’n adrodd hanes merch groenddu ifanc sy’n cael ei herwgipio ac yn diflannu yn ystod ymweliad â’i theulu biolegol cyn iddi gael ei mabwysiadu. Mae Sarah Lancashire yn chwarae rhan gweithiwr cymdeithasol Kiri.

Mae’r arian wedi’i roi gan Lywodraeth Cymru ar yr amod fod y cwmni cynhyrchu, The Forge, yn gwario cyfran o’r gyllideb ar gynhyrchu’r ddrama yng Nghymru.

2017 – ‘un o’r blynyddoedd gorau i’r diwydiant’

Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Treftadaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Mae’r arwyddion cynnar yn dangos mai 2017 oedd un o’r blynyddoedd gorau i’r diwydiant teledu a chynhyrchu ffilmiau yng Nghymru.

“Rwy’ i wrth fy modd y byddwn yn darlledu drama o safon ar ddechrau 2018.

“Yn ystod 2018, byddwn yn gweithio’n galed i adeiladu ar yr hanes llwyddiannus hwn ac yn parhau i wella’r enw da sydd gan Gymru fel lleoliad ffilmio gwych ar gyfer pob math o raglen neu ffilm.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y buddsoddiad yn y cynhyrchiad “wedi arwain at fudd economaidd go iawn mewn sawl cymuned”.

“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cwmnïau cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu, fel Kiri, sydd wedi cael arian gan y Llywodraeth, wedi gwario dros £100 miliwn yng Nghymru.

“Mae hyn wedi creu swyddi amser llawn sy’n gyfwerth â 2000 o flynyddoedd, wedi bod o fudd i gadwynio cyflenwi lleol ac wedi helpu cannoedd o fusnesau yng Nghymru.”