Mae’r undeb sy’n cynrychioli athrawon Cymraeg wedi beirniadu un o brif gyrff addysg Cymru am benodi Prif Weithredwr di-Gymraeg.

Yn ôl UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru), mae’n siom nad oedd medru’r iaith yn un o’r gofynion wrth i CBAC (Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru) chwilio am fos newydd.

Fe fydd Roderic Gillespie yn dechrau ar ei waith gyda CBAC yng Nghaerdydd ddechrau Mehefin, wedi ymadawiad Gareth Pierce a fu yn y swydd ers 2004.

“Y sefyllfa sy’n ein hwynebu nawr yw bod Prif Weithredwr un o’r cyrff pwysicaf sy’n delio’n uniongyrchol ag ysgolion a cholegau Cymru yn methu cyfathrebu â nhw drwy gyfrwng y Gymraeg”, meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd UCAC wrth golwg360.

“Mae’n debygol iawn y bydd newid yn ogystal yn y ddeinameg ieithyddol oddi fewn i CBAC, ai berthynas ag amryw o gyrff allanol.

“A heb brofiad o system addysg Cymru, tybed beth yw ei ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â dwyieithrwydd yng Nghymru, a’n system addysg a chymwysterau ddwyieithog ni?”

Dyn â phrofiad ym maes addysg

Ar hyn o bryd, Roderic Gillespie yw Cyfarwyddwr Asesu Cambridge International ers pedair blynedd.

Cyn hynny bu’n gweithio i Awdurdod Cymwysterau’r Alban (SQA), lle bu’n Bnnaeth Cwricwlwm Rhagoriaeth, Pennaeth Cymwysterau Cenedlaethol ac yn Rheolwr Cymwysterau.

Yn ôl Mike Evans, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedowyr CBAC, mae Roderic Gillespie wedi dangos “ymrwymiad sylweddol” i’r sector addysg yn genedaethol a rhyngwladol, ac yn deall yr heriau sy’n wynebu athrawon a chyrff dyfarnu.

“Bydd ei brofiad a brwdfrydedd yn bendant yn effeithio’n gadarnhaol ar y sefydliad cyfan,” meddai wedyn.