Mae cynllun yn Llanbedr Pont Steffan i ddymchwel hen adeilad ysgol gynradd yn y dre’ a chodi 21 o dai a fflatiau fforddiadwy ar y safle, wedi codi gwrychyn pobol leol.

Mae cais i ddymchwel hen Ysgol Ffynnonbedr ar Heol y Bryn wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion gan y cwmni datblygu tai, Hacer Development Ltd.

Yn ôl y cynlluniau, Wales and West Housing fyddai’n rheoli’r safle wedi i’r cartrefi newydd gael eu codi.

Ond mae rhai trigolion lleol wedi sefydlu ymgyrch yn erbyn y cynllun, gyda thudalen ar wefan gymdeithasol Facebook yn dweud fod gan y gwrthwynebwyr “sawl achos pryder am natur datbygiad o’r fath”.

Dros 70 yn anfon llythyr

Yn ôl y dudalen ‘Proposed future of former Lampeter school’ ar Facebook, mae mwy na 70 o drigolion Heol y Bryn eisoes wedi anfon llythyr o wrthwynebiad at y datblygwyr.

Mae eu rhesymau am wrthwynebu i’w cael mewn dogfen ar y dudalen – ac mae honno hefyd wedi’i hanfon i bencadlys Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron.

Y saith pwynt sy’n achosi pryder, fel y maen nhw’n cael eu rhestru yn y ddogfen, yw:

  • Sut mae dymchwel rhan isaf yr hen adeilad;
  • Natur a maint y datblygiad, sef 21 o dai a fflatiau fforddiadwy;
  • Yr effaith ar draffig ar y stryd sydd eisoes yn system un-ffordd;
  • Y cynnydd mewn risg o lifogydd ar Heol Bryn a Heol Cambrian;
  • Diffyg prawf bod angen rhagor o dai yn ardal Llanbedr Pont Steffan;
  • Yr effaith y byddai tai ychwanegol yn ei gael ar wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus y dref, sydd eisoes dan bwysau;
  • Diffyg hyder yng nghwmni Tai Wales And West Housing.