Mae grwp UKIP yn y Cynulliad yn gwrthod gadael i Aelod Cynulliad newydd ymuno ag e, oherwydd iddi fynd yn groes i’w dymuniadau wrth benodi staff i’w swyddfa.

Fydd Mandy Jones, yr Aelod Cynulliad newydd tros ranbarth Gogledd Cymru, ddim yn cymryd ei lle gyda’r pump arall dan arweinyddiaeth Neil Hamilton yn y Bae.

Mae hi newydd gael ei phenodi i olynu’r cyn-Aelod Cynulliad, Nathan Gill, wedi iddo ef benderfynu ymddiswyddo ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig.

Penodi staff o bleidiau eraill

Mewn datganaid, mae UKIP Cymru yn dweud bod Mandy Jones wedi mynd ati i benodi unigolion a fu “naill ai’n aelodau o bleidiau eraill, neu’n ymgyrchu drostyn nhw yn ddiweddar” i weithio iddo – er i’r grŵp ofyn iddi beidio.

Maen nhw hefyd yn dweud bod yr unigolion hyn wedi bod yn “sarhaus” tuag at Aelodau Cynulliad UKIP yn gyhoeddus, a’u bod nhw wedi ceisio “tanseilio” UKIP Cymru.

“Mae eu hymddygiad a’u hagweddau yn ei gwneud yn amhosib i weithio gyda Mandy Jones ar sail ymddiriedaeth a hyder,” meddai UKIP Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i Mandy Jones am ymateb.