Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dweud fod cynghorau yn gwneud “cynnydd da” o ran cyflawni eu dyletswyddau digartrefedd newydd.

Fodd bynnag, mae angen canolbwyntio mwy ar fynd i’r afael â’r achosion wrth wraidd digartrefedd.

Mae nifer y bobol y mae’r awdurdodau lleol a’u partneriaid yn llwyddo i atal rhag mynd yn ddigartref yn dechrau disgyn, ac mae nifer y bobol sydd mewn llety dros dro yn cynyddu.

Dyna pam, er mwyn atal digartrefedd, y mae angen i’r awdurdodau lleol a’u partneriaid weithio mewn modd gwahanol, meddai.

“Mae fy adroddiad yn amlygu’r ffaith bod awdurdodau lleol yn parhau i ganolbwyntio ar reoli pobol mewn argyfwng yn hytrach na’u hatal rhag mynd i argyfwng yn y lle cyntaf, a hynny er gwaethaf bwriadau cadarnhaol Lywodraeth Cymru i atal digartrefedd,” meddai Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.

“Er mwyn atal digartrefedd mewn gwirionedd, mae angen i gyrff cyhoeddus feddu ar safbwynt hirdymor, a gweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i’r afael yn wirioneddol â’r materion sy’n achosi digartrefedd.

“Mae hyn yn gofyn am ffocws ar, er enghraifft, well cyrhaeddiad addysgol, mynediad at gyflogaeth, cyfnod pontio sydd wedi’i gynllunio’n dda wrth adael gofal, a mynediad at fudd-daliadau lles.”