Mae angen cynnig 30 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng tair a phedair oed yng Nghymru, yn ôl Plaid Cymru.

 

Drwy beidio gwneud hyn, meddai llefarydd addysg y blaid, Llŷr Huws Gruffydd, mae plant o gefndiroedd difreintiedig “dan anfantais” wrth gychwyn yn yr ysgol.

 

Mae’n cyfeirio at ymchwil a wnaed gan elusen Achub y Plant yn ddiweddar a oedd yn dangos bod plant sy’n byw mewn tlodi ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn datblygiad ieithyddol pan maen nhw’n bum mlwydd oed.

 

Ychwanega hefyd fod y cynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn cyfyngu’r 30 awr o ofal plant i deuluoedd sy’n gweithio yn unig, yn gwaethygu’r broblem i’r plant hynny sy’n dod o deuluoedd tlotach.

“Lefel gyfartal”

Nod Plaid Cymru yw rhoi i bob plentyn rhwng tair a phedair oed yng Nghymru fynediad i 30 awr o ofal am ddim bob wythnos, gan ddweud ei bod yn “hanfodol” gwaredu ar yr anfantais a’r cyraeddiadau isel sy’n bodoli mewn ysgolion.

“Mae Plaid Cymru eisiau i bob plentyn ddechrau ysgol ar lefel gyfartal, ac fe fydd ein cynigion ni’n gwneud hynny”, meddai.