Casnewydd 2–1 Leeds                                                                      

Mae Casnewydd yn yr het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl trechu Leeds yn y drydedd rownd ar Rodney Parade brynhawn Sul.

Sgoriodd yr eilydd, Shawn McCoulsky, gôl hwyr ddramatig i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i’r Alltudion yn erbyn tîm o chwech uchaf y Bencampwriaeth.

Naw munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth Leeds ar y blaen, Joe Day yn y gôl i Gasnewydd y cael ei guro’n rhy rhwydd o lawer gan ergyd isel Gaetano Berardi o 30 llath.

Casnewydd a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf wedi hynny ac fe gawsant ambell gyfle da i unioni pethau cyn yr egwyl.

Cafodd Padraig Amond gyfle gwych yn y cwrt chwech ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell gan sgoriwr Leeds, Berardi. Roedd cyfle da i Joss Labadie hefyd ond roedd ei beniad yn wan ac yn syth at y golwr, Andy Lonergan.

Efallai fod Leeds yn chwarae ddwy adran yn uwch na Chasnewydd ond doedd dim arwydd o hynny wrth i’r tîm cartref barhau i reoli wedi’r egwyl.

Tarodd cynnig acrobataidd Amond y rhwyd ochr cyn i Labadie anelu foli dros y trawst wrth i’r pwysau gynyddu ar gôl Lonergan.

Fe ddaeth gôl haeddiannol i’r Alltudion yn y diwedd gyda chwarter awr i fynd ond un o chwaraewyr Leeds a’i sgoriodd hi wrth i sodliad Amond o groesiad Frank Nouble gael ei wyro i gefn y rhwyd gan Conor Shaughnessy.

Ni fyddai neb wedi gweld llawer o fai ar Gasnewydd am fodloni ar gêm gyfartal wedi hynny ond nid felly y bu.

Parhau i bwyso a wnaeth y Cymry gan ei hennill hi gyda pheniad gwych McCoulsky o gic gornel Robbie Willmott funud o ddiwedd y naw deg.

Bydd tîm Michael Flynn yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y bedwaredd rownd pan fydd yr enwau’n dod o’r het nos Lun.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, White, Demetriou, Butler, Willmott (O’Brien 90+2’), Bennett, Labadie, Dolan (McCoulsky 69’), Nouble, Amond (Hayes 86’)

Goliau: Shaughnessy [g.e.h.] 76’, McCoulsky 89’

Cerdyn Melyn: McCoulsky 90+2’

.

Leeds

Tîm: Lonergan, Anita, Shaughnessy, Berardi, Borthwick-Jackson (Cooper 60’), Sacko, Phillips, Klich, Cibicki, Grot (Saiz 75’), Lasogga

Gôl: Berardi 9’

Cardiau Melyn: Berardi 10’, Grot 70’

Cerdyn Coch: Saiz 90+1’

.

Torf: 6,887