Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 20 oed o Wrecsam.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n gofidio am Richard Davies.
Mae’n 5’10” ac yn denau iawn, a chanddo wallt tywyll a barf.
Pan aeth ar goll, roedd yn gwisgo tracwisg lwyd a siaced goch.
Mae ganddo gysylltiadau ag ardal Y Waun.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.