Mae disgwyl i 350 o fflatiau myfyrwyr gael eu hadeiladu yng Nghaerdydd.

Cwmni Mederco fydd yn gyfrifol am y datblygiad, a’u bwriad yw codi fflatiau stiwdio mewn pum bloc tri llawr, canolfan gymunedol a chlwb bocsio oddi ar Heol Mynachdy.

Fe fu peth wrthwynebiad i’r datblygiad ar hen safle storio glo, ond mae disgwyl i’r Cyngor ei gymeradwyo ar ôl argymhelliad gan swyddogion cynllunio.

Byddai’r datblygiad wedyn yn ddibynnol ar gytundeb cyfreithiol.