Mae’r cyn-Aelod Cynulliad UKIP, Nathan Gill wedi beirniadu “bybl” Bae Caerdydd, fis ar ôl ymddiswyddo.

Roedd yn Aelod Cynulliad annibynnol tros Ogledd Cymru ar ôl gadael UKIP, ac mae Mandy Jones wedi cymryd ei le.

Dywedodd wrth Radio Wales fod y Cynulliad yn “llawn dadlau a negatifrwydd”, gan ychwanegu nad oedd yn hapus yn y sefydliad ar ôl bod yn un o saith Aelod Cynulliad ei blaid ar ôl etholiad 2016.

‘Gwahaniaeth’

Ond roedd anghytuno cyson rhyngddo fe ac aelodau ei blaid, ac yn enwedig yr arweinydd yn y Cynulliad, Neil Hamilton.

Dywedodd Nathan Gill wrth raglen Sunday Supplement: “Mae gwahaniaeth rhwng gwleidyddiaeth y Cynulliad a gwleidyddiaeth Cymru, ac fe wnes i ddarganfod fod y Cynulliad yn sicr yn fath o fybl sy’n ymddangos fel pe bai yn ei fyd ei hun tra bod gan bawb arall yng Nghymru wahanol flaenoriaethau a phryderon.”

Ond dywedodd nad oedd yn gwadu bod yn Aelod Cynulliad wrth i’w blaid frwydro i sicrhau bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd ei fod yn dymuno canolbwyntio ar Brexit dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, ac yntau’n dal yn Aelod Seneddol Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Awgrymodd y byddai diwedd y broses Brexit yn ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol hefyd.